SL(6)144 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Gwneir Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau”) gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 173 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”). Maent yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i'r addasiadau i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 a wnaed gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 ("Rheoliadau 2021").

Mae Rhan 5 o Ddeddf 2021 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig sy’n cynnwys y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol hynny yng Nghymru a bennir yn y Rheoliadau sy’n eu sefydlu. Caniateir iddynt arfer y swyddogaethau a bennir yn y Rheoliadau hynny, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) swyddogaethau penodedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o ran trafnidiaeth.

Mae adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod trafnidiaeth lleol sydd â’i ddalgylch yng Nghymru baratoi dogfen o’r enw y Cynllun Trafnidiaeth Lleol. Rhaid i'r cynllun hwn gynnwys ei bolisïau ar gyfer hyrwyddo ac annog cludiant diogel, integredig, effeithlon ac economaidd i'w hardal, oddi mewn iddi ac ohoni, a'i bolisïau yn ei ardal ar gyfer rhoi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ar waith. Roedd Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014 yn caniatáu i awdurdodau lleol gynhyrchu cynlluniau trafnidiaeth lleol ar y cyd.

Mae swyddogaethau o dan adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 wedi eu rhoi i bedwar cyd-bwyllgor corfforedig ar wahân o dan y rheoliadau a ganlyn a wnaed o dan adrannau 74, 83 a 174 o Ddeddf 2021:

·         Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) 2021 (O.S. 2021/343 (Cy. 97));

·         Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) 2021 (O.S. 2021/325 (Cy. 104));

·         Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021 (Of.S. 2021/342 (Cy. 96));

·         Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021 (O.S. 2021/339 (Cy. 93)).

Mae'r Rheoliadau, sy’n dod i rym ar yr un diwrnod â’r Rheoliadau, yn addasu Deddf Trafnidiaeth 2000 mewn achosion pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi ei sefydlu drwy Reoliadau, a’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 wedi ei rhoi i'r cyd-bwyllgor corfforedig. Mae'r addasiadau'n ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddatblygu polisïau trafnidiaeth a sefydlu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer ei ardal.

Mae’r Rheoliadau yn:

·         Diwygio deddfwriaeth gysylltiedig sy'n cyfeirio at Gynlluniau Trafnidiaeth Lleol, gan gynnwys Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 (OS 2005/2839), Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (OS 2007/399), Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

·         Sicrhau bod y polisïau sydd wedi'u cynnwys yn y Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol presennol yn parhau mewn grym nes y bydd y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd yn dod i rym.

·         Dirymu Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014

Y weithdrefn

Cadarnhaol Drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae'r Rheoliadau ar wahanol adegau yn cyfeirio at Baragraff 108(2A)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, sy'n ymwneud â datblygu polisïau perthnasol, yn hytrach na Pharagraff 108(2A)(b), sy'n ymwneud â gweithredu'r polisïau hynny. Nodir, fodd bynnag, ar adegau eraill yn y Rheoliadau, mai dim ond at is-adran 108(2A) y cyfeirir[1]. Nid yw'n glir pam yr hepgorwyd y cyfeiriad at Baragraff (a) ar yr achlysuron hyn gan ei bod yn ymddangos bod yr holl gyfeiriadau'n ymwneud â datblygu polisïau perthnasol ac nid eu gweithredu.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau ar gyfer adrodd arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

1 Chwefror 2022

 



[1] Yn: paragraffau 4(4) a 4(5) o'r Rheoliadau, ac is-baragraff 1(b) o'r Atodlen